top of page
Bugail Hafod-y-Cwm / The Shepherd of Hafod-y-Cwm
Alaw/Melody - Tradd/Trad
Geiriau/Words - Pennill 1af ac 2il/1st and 2nd verse - Thomas David Thomas 'Glan Padarn' (1848-1888)
                               Pennill 3 a 4/verse 3 and 4 - GBRh
 

Myfi yw bugail Hafod-y-Cwm,

Rwy’n canu’n llon er mod i’n llwm,

Mae gen i wraig a thri o blant

Yn byw yn ochr ucha’r nant,

Ffalala o rwy’n hapus ffalalala.

 

Mynd heibio’n gawr mae gŵr Plas-Nant,

Mae’n berchen cyfoeth lawer cant,

Ond rwy’n hapusach nag yw ef,

Yng nghanol sŵn y praidd a’i bref,

Ffalala o rwy’n hapus ffalalala.

 

Mae dyddiau melys mwyn fis Mai

A’i dywydd cynnes yn nesau ,

Bydd swyn atseiniol alaw’r nant

Yn llwyr sirioli’r byd a’i blant,

Ffalala o rwy’n hapus ffalalala.

 

Myfi yw bugail Hafod-y-Cwm,

Rwy’n canu’n llon er mod i’n llwm,

A canu wnaf hyd ddydd fy medd

Hyd lethrau cwm fy seithfed nef,

Ffalala o rwy’n hapus ffalalala.

I am the shepherd of Hafod-y-Cwm,

I sing with jollity even though I’m poor.

I have a wife and three children

Living above the stream,

Falala oh I’m happy falalala.

 

The gentleman of Plas-Nant walks by importantly,

He is the owner of many a hundred pounds,

But I am happier than he,

Among my bleating flocks,

Falala oh I’m happy falalala.

 

May, with its sweet and fair days,

And its warm weather is approaching,

The enchanting and resounding melody of the stream

Will gladden all the world and its children,

Falala oh I’m happy falalala.

 

I am the shepherd of Hafod-y-Cwm,

I sing with jollity even though I’m poor,

And I’ll sing until the day I die

On the slopes of this valley, my seventh heaven,

Falala oh I’m happy falalala.

bottom of page