top of page
Coed Glyn Cynon / Glyn Cynon Wood
Cerddoriaeth / Music – GBRh / Tradd. / Trad.
Geiriau / Lyrics – Tradd. / Trad.
Trefn. / Arr. – GBRh, GM, PR

(translation by Gwyn Williams 1904-1990)

Aberdâr, Llanwynno i gyd,
Plwy’ Merthyr hyd Llanfabon,
Mwyaf adfyd a fu erioed
Pan dorred Coed Glyn Cynon

Torri llawer parlwr pur
Lle cyrcha gwÅ·r a meibion,
Yn oes dyddiau seren syw,
Mor araul yw Glyn Cynon

Pe bai gŵr ar drafael dro
Ac arno ffo rhag estron,
Fo gâi gan eos lety erioed
Yn fforest Coed Glyn Cynon.

Llawer bedwen las ei chlog
(Ynghrog y byddo’r Saeson!)
Sydd yn danllwyth mawr o dân
Gan wÅ·r yr haearn duon.

Gwell y dylasai’r Saeson fod
Ynghrog yng ngwaelod eigion,
Uffern boen, yn cadw plas
Na thorri glas Glyn cynon.

Mynnaf wneuthur arnynt gwest
O adar onest ddigon,
A’r dylluan dan ei nod
A fynna’ i fod yn hangmon.

Os mynnwch wybod pwy a wnaeth
Hyn o araeth creulon,
Dyn a fu gynt yn cadw oed
Dan fforest Coed Glyn Cynon.

Aberdare, Llanwynno through,
all Merthyr to Llanfabon;
there was never a more disastrous thing
than the cutting of Glyn Cynon.

They cut down many a parlour pure
where youth and manhood meet;
in those days of the regular star
Glyn Cynon's woods were sweet.

If a man in sudden plight
took to flight from foe,
for guest-house to the nightingale
in Cynon Vale he'd go.

Many a birch-tree green of cloak
(I'd like to choke the Saxon!)
is now a flaming heap of fire
where iron-workers blacken.

Rather should the English be
strung up beneath the seas,
keeping painful house in hell
than felling Cynon's trees.

I'd like to call on them a quest
of every honest bird,
where the owl, worthiest in the wood,
as hangman would be heard.

If there's a question who rehearsed
in verse this cruel tale,
it's one who many a tryst has kept
in the depth of Cynon Vale.

bottom of page