top of page
Gwn Dafydd Ifan / Dafydd Ifan´s gun
Cerddoriaeth/Music – Tradd./Trad.
Geiriau/Lyrics – William Williams ‘Gwilym Peris’ (1769 – 1847)
Trefn./Arr. – GBRh, GM, PR, WP

Os yda chi´n dewis cael clywed y gwir
Mi draethaf yr hanes a hyn cyn bo hir
a choeliwch y stori tra byddwch chi byw
fod gwn Dafydd Ifan heb hoelen na sgriw

Ni ddaw unrhyw niwed i´r Cymry, neno´r tad!,
Tra bo Dafydd Ifan a´i wn yn y wlad.

Ei stoc oedd odidog o bren mawnog mawr
a’i liw yn bur loywddu yn gweddu´r hen gawr.
fe gollodd yr sgriw a´r hoelion meddan nhw
wrth ymladd tri diwrnod ym matl Waterlŵ

Pan welai o sgwarnog neu lwynog ar lawr
bydd Dafydd yn cerdded a’i fwriad yn fawr.
Mi saethith nw´n gelain yn gywrain â´r gwn
yn gŵn ac yn gathod, un hynod yw hwn

Os daw yr hen Ffrancod fel daethont o´r blaen
i ymladd â Lloegar, na hidiwch mo´r draen -
ni ddaw unrhyw niwed i´r Cymry, neno´r tad!,
Tra bo Dafydd Ifan a’i wn yn y wlad.

If you choose to hear the truth
I shall recount the story, and that before long
and you’ll believe the story whilst you live
that Dafydd Ifan’s gun hasn’t a nail or a screw

no harm at all will come to the Welsh, in the name of the father!,
Whilst Dafydd Ifan and his gun is in the land.

its stock was glorious - of a great bog wood
and it’s colour was jet-black, that suited the old giant.
he lost the screw and the nails, so they say,
whilst fighting three days in the battle of Waterloo

when he sees a hare of a fox on the ground
Dafydd will advance with great intent
he’ll shoot them dead, accurately with his gun,
dogs and cats included, a bold one is he.

if the old Frenchies come, like they came before,
to fight against England, don’t you mind at all -
no harm at all will come to the Welsh, in the name of the father!,
Whilst Dafydd Ifan and his gun is in the land

bottom of page