top of page
Ffarwel i Langyfelach lon / Farewell to joyous Llangyfelach
Cerddoriaeth a geiriau/ Music and lyrics – Tradd./Trad.Trefn. / Arr. – GBRh, PR

Ffarwel i Langyfelach lon
a’r merched ifanc i gyd o’r bron.
Rwy’n mynd i weld pa run sydd well -
ai ngwlad fy hun neu’r gwledydd pell.

Wel martsio wnes i yn y blaen
nes imi ddod i dre Pont–faen,
ac yno roeddent yn fawr eu sbort
yn listio' gwÅ·r at y Duke of York.

Mi drois fy mhen ac i ryw dÅ·,
yr aur a'r arian oedd yno'n ffri.
y dryms a'r ffeiffs oedd yn cario'r sŵn,
a listio wnes at y light dragoon.

A martsio mlaen i Llundain fry,
wel duty caled ddaeth arnom ni
sef handlo'r dryll a'r cleddyf noeth,
y bwlets plwm a'r powdwr poeth.

Ac ordors ddaeth yn fore iawn
ac un arall y prynhawn
fod yr English fleet yn hwylio mas
a minnau ar y cefnfor glas.

Ffarwel fy nhad, ffarwel fy fam
sydd wedi fy magu a'm dwyn i Ian
yn dyner iawn o flaen y tân,
a chan ffarwel fo i'r merched glan.

Os gofyn rhai pwy wnaeth y gân,
wel d´wedwch chi mai merch fach lân
sydd yn hiraethu nos a dydd
i'w hannwyl gariad gael dod yn rhydd.

 

Farewell to fair Llangyfelach
and all the young girls from my bosom.
I´m going to see which is better -
my own country or the countries far away.

Well I marched forward
until I came to the town of Cowbridge
and there they were in a great sport
enlisting the men to ´the Duke of York´

I turned my head and into some house,
the gold and the silver was there freely.
The drums and the fifes were carrying the sound
and I enlisted to the light dragoons.

Then I marched to lofty London,
well a hard duty came upon us
which was handling the gun and the naked sword,
the leaden bullets and the hot powder.

And orders came very early
and another one in the afternoon
that the English fleet was sailing out
and that was me on the blue ocean

Farwell my father, farewell my mother
who have raised me and brought me up
very lovingly in front of the fire,
and a hundred farewells to the fair girls.

If some ask who made the song,
well tell them that it was a pure little girl
that is longing night and day
for her dear love to come free.

bottom of page