
CANWR GWERIN CYMRAEG
WELSH FOLK SINGER

"One of these islands' best, in any language" - Mark Radcliffe, BBC Radio 2
“Cerddor sy’n prysur fynd yn drysor cenedlaethol” – Tudur Huws Jones, Y Cymro
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad teilwng dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 a thrwy ennill Gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru.
Ac yntau’n hanu o bentref Bethel ar odre'r Wyddfa yng Ngogledd Orllewin Cymru, mae Gwilym wedi bod yn canu yn Gymraeg, ei iaith frodorol, ers iddo gofio, gan roi iddo gysylltiad dwfn â chaneuon a cherddoriaeth draddodiadol ei fro enedigol a chariad at rannu ei gerddoriaeth gyda chymunedau lleol yr ardal Gymraeg hon.
Mae ei gerddoriaeth, sy'n dod â geiriau ac alawon Cymraeg hynafol yn fyw, yn unigryw o ganlyniad i'w ddull cerddorol cyfoes ei hun. Rhyddhawyd ei albwm cyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 a chyrhaeddodd restr fer Albwm Gorau’r Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan helpu i’w sefydlu fel llais newydd a hanfodol ar gyfer cerddoriaeth o Gymru.
Rhyddhawyd ei bumed albym - Aden, yn 2025.